Sunday 21 September 2014

Stwff mod i ddim yn gwneud yn Saesneg!

O'n i'n siarad am gwleidyddiaeth gyda rhywun heno. Nawr, dwi'n gwybod llai am gwleidyddiaeth na dwi'n gwybod am yr iaith, ond wnes i ddechrau meddwl mod i'n gwneud lot o stwff yn Gymraeg mod i'n ddim yn gwneud yn Saesneg. Rili, dwi'n fel berson wahanol yn llwyr yn Gymraeg.

Dyma list o stwff dwi'n gwneud yn Gymraeg yn unig.

1. Rhoi shit am gwleidyddiaeth.
2. Mynd mewn ystafell a siarad i bobl dwi ddim yn nabod.
3. Dechrau sgwrs.
4. Gwneud twat mas o fy hun.
5. Teimlo hapus pan rhywun dwi ddim yn nabod siarad i fi.
6. Sgwennu blog.
7. Defnyddio Twitter.
8. Hala syniad i bobl, neu rhoi feedback.
9. Moyn pobl arall clywed fy marn i 

Dwi'n siwr mod i'n wedi anghofio lot o stwff hefyd, ond mae hyn yn blog 5 munud.

Bydda i'n dweud hyn i monoglots. Dysgu iaith newydd ( ie, i fi, mae iaith Gymraeg yw'r gorau, ond  dysgu unrhyw iaith), mae'n lot mwy na jyst her. Mae'n gwneud wahaniaeth i fy myw. Well, so long as no random twat starts talking to me in English anyway!

No comments:

Post a Comment